Gruff Rhys – Rhagluniaeth Ysgafn
Yr Atal Genhedlaeth (2005)
Originaltext, kymriska:
O dyro i mi
Ragluniaeth ysgafn, rhagluniaeth ysgafn, rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a’r awel fwyn
A phan ddaw’r amser i gael fy marnu
O! Cym i ystyriaeth fy nghyfraniad i’r achosion da,
Ac er yr holl deithio, y llwgr-wobrwyo,
Y cyffuriau caled, y merched o bedwar ban
Dw i wedi hen flino ar fy mhwdr areithio,
Yr holl ddanteithio, fy mrad o iaith y nef,
Y rhegi cyhoeddus, y lluniau anweddus,
Fy nghabledd o flaen y groes,
Yr hunan-dosturi, y cwrw a’r miri,
Fy ofer-ymffrostio, tra’n rhostio yn y gwledydd poeth.
A phan ddaw’r cyfweliad, Erfynaf am fynediad,
Drwy lidiart y nefoedd I’r cyfoeth ar yr ochr draw.
A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau,
Fy holl rinweddau, Sy’n rhifo ar un llaw.
Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am:
Ragluniaeth ysgafn, rhagluniaeth ysgafn, rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a phluen dryw
Redigera/ÖversättFlytta
Tillbaka till listan över texter